Lleolir yr ysgol ar gyrion pentref Penparc, ryw dair milltir i’r gogledd o dref Aberteifi. Gwasanaetha’r ysgol y pentref a’r ardal gyfagos. Derbynia’r ysgol ddisgyblion yn llawn amser i’r Dosbarth Derbyn yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.
Mae yna 5 dosbarth ar hyn o bryd, 2 yn y Cyfnod Sylfaen a 3 yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae gan yr ysgol gae chwarae gwych sydd hefyd yn fantais i’r gymuned a thîm pêl-droed Pentref Penparc.
Mae yna Ysgol Feithrin y Mudiad Meithrin ar safle’r ysgol a dderbynia blant o ddwy a hanner oed a chydweithiwn yn agos gyda’n gilydd.
Datganiad o Fwriad
‘Gyda’n gilydd, agorwn ddrysau llwyddiant’
Ein nod yw darparu addysg gynhwysol o safon uchel mewn amgylchedd dysgu sy’n hyrwyddo datblygiad pob plentyn. Darperir cyfleoedd sydd yn manteisio ar y diwylliant Gymraeg a Chymreig cryf sydd yn ein cymuned a sicrheir y bydd yr addysg a gynigir yn paratoi ein disgyblion i fod yn aelodau cyfrifol, hyderus a gwerthfawr o’n cymdeithas.